Information in Welsh
Sgil-effaith eich meddyginiaeth? Gwnewch adroddiad amdani drwy ddefnyddior Cynllun Cerdyn MelynGwneud meddyginiaeth yn ddiogel i bawb
Gall pob meddyginiaeth achosi sgil-effeithiau diangen (a elwir yn adweithiau niweidiol i gyffuriau). Mae llawer o sgil-effeithiaun ysgafn, ond gall rhai ohonynt fod yn ddifrifol a hyd yn oed beryglu bywydau. Weithiau, gall sgil-effeithiau ymddangos ar ôl i berson stopio cymryd meddyginiaeth. Does neb yn gwybod am rai or sgil-effeithiau nes y bydd llawer o bobl wedi cymryd y feddyginiaeth am amser hir. Dyna paham maen bwysig i bobl riportio sgil-effeithiau a amheuir gan ddefnyddior Cynllun Cerdyn Melyn.
Os ydych chin poeni am symptom y credwch y gallai fod yn sgil-effaith, siaradwch âch meddyg neu fferyllydd i gael cyngor.
Beth iw riportio
Yn y Deyrnas Unedig gallwch riportio sgil-effeithiau a amheuir i unrhyw feddyginiaeth neu feddyginiaeth lysieuol, pun ai a oedd eich meddyg wedii rhagnodi neu a gafodd ei phrynu heb bresgripsiwn. Gallwch riportio sgil-effeithiau sydd wedi digwydd:
¨i chi eich hunan,
¨ich plentyn, neu
¨i rywun rydych yn gyfrifol amdano, neu i rywun syn gofyn i chi riportio ar ei ran.
Sut y defnyddir adroddiadau Cerdyn Melyn?
Maer Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn casglu adroddiadau Cerdyn Melyn gan bobl yn cymryd meddyginiaethau, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol iechyd fel meddygon, fferyllwyr a nyrsys.Bydd Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn defnyddior wybodaeth a roddir i adolygur ffordd y gellir defnyddio meddyginiaeth, ar rhybuddion a roddir yn y wybodaeth am y feddyginiaeth
Beth ywr MHRA?
Maer MHRA yn rhan o lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ei brif nod yw amddiffyn iechyd y cyhoedd. Maen gwneud hyn drwy wneud yn siŵr bod meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn gweithion iawn ac yn dderbyniol o ran diogelwch. Pan ddaw unrhyw broblemau posibl ir amlwg, bydd yr MHRA yn gweithredu ar unwaith i warchod y cyhoedd.
Mae tair ffordd i wneud adroddiad Cerdyn Melyn
Mae angen cwblhau Cardiau Melyn yn Saesneg felly efallai yr hoffech chi ofyn am help rhywun syn ysgrifennu neun siarad Saesneg. Gall gweithiwr iechyd proffesiynol (megis meddyg, fferyllydd neu nyrs) hefyd riportio Cerdyn Melyn i chi.
¨Os oes gennych fynediad at y Rhyngrwyd defnyddiwch y Cerdyn Melyn ar-lein ar www.mhra.gov.uk/yellowcard Dymar ffordd hawsaf i wneud adroddiad
¨Cwblhewch ffurflen Cerdyn Melyn, y gellir ei bostio heb fod angen stamp
¨Ffoniwch linell frys Cerdyn Melyn ar radffôn 0808 100 3352
Diogelu eich gwybodaeth bersonol
Cedwir manylion personol yn ddiogel ac yn gyfrinachol. Ni chânt byth eu trosglwyddo i unrhyw un arall y tu allan ir MHRA heb eich caniatâd penodol.

