Welsh
Information about reporting side effects in Welsh.
Gwnewch adroddiad amdani drwy ddefnyddio’r Cynllun Cerdyn Melyn
Sgil-effaith eich meddyginiaeth? Gwnewch adroddiad amdani drwy ddefnyddio’r Cynllun Cerdyn Melyn
Gwneud meddyginiaeth yn ddiogel i bawb
Gall pob meddyginiaeth achosi sgil-effeithiau diangen (a elwir yn adweithiau niweidiol i gyffuriau). Mae llawer o sgil-effeithiau’n ysgafn, ond gall rhai ohonynt fod yn ddifrifol a hyd yn oed beryglu bywydau. Weithiau, gall sgil-effeithiau ymddangos ar ôl i berson stopio cymryd meddyginiaeth. Does neb yn gwybod am rai o’r sgil-effeithiau nes y bydd llawer o bobl wedi cymryd y feddyginiaeth am amser hir. Dyna paham mae’n bwysig i bobl riportio sgil-effeithiau a amheuir gan ddefnyddio’r Cynllun Cerdyn Melyn.
Os ydych chi’n poeni am symptom y credwch y gallai fod yn sgil-effaith, siaradwch â’ch meddyg neu fferyllydd i gael cyngor.
Beth i’w riportio
Yn y Deyrnas Unedig gallwch riportio sgil-effeithiau a amheuir i unrhyw feddyginiaeth neu feddyginiaeth lysieuol, p’un ai a oedd eich meddyg wedi’i rhagnodi neu a gafodd ei phrynu heb bresgripsiwn. Gallwch riportio sgil-effeithiau sydd wedi digwydd:
i chi eich hunan,
i’ch plentyn, neu
i rywun rydych yn gyfrifol amdano, neu i rywun sy’n gofyn i chi riportio ar ei ran.
Sut y defnyddir adroddiadau Cerdyn Melyn?
Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn casglu adroddiadau Cerdyn Melyn gan bobl yn cymryd meddyginiaethau, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol iechyd fel meddygon, fferyllwyr a nyrsys. Bydd Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn defnyddio’r wybodaeth a roddir i adolygu’r ffordd y gellir defnyddio meddyginiaeth, a’r rhybuddion a roddir yn y wybodaeth am y feddyginiaeth
Beth yw’r MHRA?
Mae’r MHRA yn rhan o lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ei brif nod yw amddiffyn iechyd y cyhoedd. Mae’n gwneud hyn drwy wneud yn siŵr bod meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn gweithio’n iawn ac yn dderbyniol o ran diogelwch. Pan ddaw unrhyw broblemau posibl i’r amlwg, bydd yr MHRA yn gweithredu ar unwaith i warchod y cyhoedd.
Mae tair ffordd i wneud adroddiad Cerdyn Melyn
Mae angen cwblhau Cardiau Melyn yn Saesneg felly efallai yr hoffech chi ofyn am help rhywun sy’n ysgrifennu neu’n siarad Saesneg. Gall gweithiwr iechyd proffesiynol (megis meddyg, fferyllydd neu nyrs) hefyd riportio Cerdyn Melyn i chi.
Os oes gennych fynediad at y Rhyngrwyd defnyddiwch y Cerdyn Melyn ar-lein ar www.mhra.gov.uk/yellowcard Dyma’r ffordd hawsaf i wneud adroddiad
Cwblhewch ffurflen Cerdyn Melyn, y gellir ei bostio heb fod angen stamp
Ffoniwch linell frys Cerdyn Melyn ar radffôn 0808 100 3352
Diogelu eich gwybodaeth bersonol
Cedwir manylion personol yn ddiogel ac yn gyfrinachol. Ni chânt byth eu trosglwyddo i unrhyw un arall y tu allan i’r MHRA heb eich caniatâd penodol.
Welsh Yellow Card member of the public information pamphlet and reporting form (English)
Welsh member of the public information card